Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ffotograff (digidol) | photograph (digital)
Copi digidol o ffotograff o Llewellyn a Margaret Jones a dynnwyd yn 1941. Roeddent yn landlordiaid tafarn The Vulcan Hotel rhwng 1939-1941.
Ganwyd Llewellyn Jones yn Dolwyddelan, sir Gaernarfon ar 25 Hydref, 1899 i deulu o chwarelwyr.Tua 1909 pan fu Llewellyn yn rhyw 7 oed, symudodd y teulu i Abercynon. Ar ol iddo adael yr ysgol yn rhyw 12 oed, fe gychwynodd weithio dan ddaear yn y pyllau glo. Roedd yn lowr am rhanfwyaf o'i oes, a fe symodd i weithio mewn tafarndai yn hwyr. Fe briododd Margaret 'Maggie' Walsh yn 1920 a fe gafodd tri o blant. Rhwng 1939-41 roeddent yn rheolwyr tafarn The Vulcan Hotel a buont yn byw ar y safle gyda'i plant. Bu farw Llewellyn yn 1945, yn 46 mlwydd oed, o silicosis oherwydd ei flynyddoedd yn gweithio dan ddaear.